Croeso i Ganolfan Awyr Agored Daerwynno
Croeso ichi bori’r wefan a chysylltu
â ni trwy
anfon neges ebost,
daerwynno@btinternet.com
neu ffonio 01443 790768
Mae’r wefan yma’n cynnwys gwybodaeth ynglyn â Chanolfan
Awyr Agored Daerwynno a’r ardal o’i chwmpas. Hen ffermdy deulawr wedi’i godi o garreg ydy Canolfan Daerwynno. Mae’r ganolfan yng Nghoedwig Gwynno Sant ger Ynys-y-bwl,
Rhondda Cynon Taf,
yn y De.
Rydyn ni’n cynnig llawer o weithgareddau awyr agored
a chyrsiau addysgiadol ar hyd y flwyddyn gan gynnwys cyrsiau
cyfeiriadu, canwio, meithrin medrau gweithio’n rhan
o garfan ac astudio bywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Mae’r goedwig sy’n amgylchynu’r ganolfan yn fan delfrydol ar
gyfer y gweithgareddau yma ac mae cronfa
ddwr brydferth Cwm Clydach nepell i ffwrdd hefyd.
Grwp Gweithgareddau Awyr Agored Cwm Clydach (elusen gofrestredig) sy’n cynnal Canolfan Awyr Agored Daerwynno. Mae’r grwp yn cyflogi un weithiwr rhan amser ac mae carfan o wirfoddolwyr brwd yn gweithio gyda nhw i reoli’r ganolfan a chynnal y gweithgareddau i gyd.
English-language website | click here
Croeso ichi grwydro’r ardal trwy ddilyn llwybrau Cylchoedd a Dolenni Groundwork Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Cliciwch ar logo y Cylchoedd a Dolenni i fwrw golwg dros y wefan.
Dyluniwyd y wefan gan Sara Melvin ar gyfer Neil Angove
limited | www.neilangove.ltd.uk
© Grwp Gweithgareddau Awyr Agored Cwm Clydach 2006